John 17:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r gogoniant a roddeist i mi a rois i ydd wynt, mal y bont vn, meis ydd ym ni vn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y gogoniant a roddaist i Mi, Myfi a’i rhoddais iddynt hwy, fel y byddont yn un, fel yr ydym Ninnau yn un:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr wyf innau wedi rhoddi’r gogoniant, a roddaist i mi, iddynt hwy, fel y byddont yn un megis yr ydym ninnau’n un,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi rhoi iddyn nhw rannu'r ysblander a roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi wedi rhoi iddynt hwy y gogoniant a roddaist ti i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gogoniant yr wyt wedi ei roddi i mi yr wyf finau wedi ei roddi iddynt hwy, fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un: