John 17:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y Tad, wyllysu’ dd wyf am yr ei a roddeist y‐my, y bot wy gyd a mi yn y lle ac ydd yw vi, val y ca h ant edrych y gogoniant meu vi, yr hwn a roddeist y mi: can ys ceraist vi cyn no bot sail iat y byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O Dad, yr hyn a roddaist i Mi, ewyllysiaf, lle yr wyf Fi, iddynt hwythau hefyd fod ynghyda Mi, fel y gwelont Fy ngogoniant, yr hwn a roddaist i Mi oblegid caru o Honot Fi cyn seiliad y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dad, yr hyn a roddaist i mi, yr wyf yn dymuno, lle yr wyf i, iddynt hwythau hefyd fod gyda mi, fel y gwelont fy ngogoniant i a roddaist i mi am iti fy ngharu i cyn sylfaenu’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dad, dw i am i'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i — yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i'r byd gael ei greu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle'r wyf fi, er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dâd, yr hyn yr ydwyt wedi ei roddi i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â mi, fel yr edrychont ar fy ngogoniant yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; oblegyd ti a'm ceraist i cyn seiliad y byd.