John 17:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi d d atcenais yddynt dy Enw, ac eu datcanaf y n y bo y cariat y cereist vi, ynddynt‐ h wy, a’ mi ne ynddynt hvvytheu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac hyspysais iddynt Dy enw, ac a’ i hyspysaf, fel y bo i’r cariad, â’r hwn y ceraist Fi, fod ynddynt hwy, a Minnau ynddynt hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hysbysais iddynt dy enw di, ac mi a’i hysbysaf eto, fel y bo’r cariad y’m ceraist i ag ef ynddynt hwy, a minnau ynddynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â'r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i yn dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad 'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf, fel y byddo y cariad â'r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minau ynddynt hwy.