John 17:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys rhoesym yddynt y geiriae, a rhoðeist y mi, ac wynt eu d erbyniniesont, ac a wybuont yn ddieu ddyuot o hanof y wrthyt, ac a gredesont mai tu am d anvonawdd i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr ymadroddion a roddaist i Mi, a roddais iddynt, a hwy a’ u derbyniasant, a chredasant mai Tydi a’m danfonaist I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan fy mod wedi rhoddi iddynt hwy’r geiriau a roddaist i mi, a hwythau wedi eu derbyn a gwybod yn wir mai oddiwrthyt ti y deuthum allan a chredu mai ti a’m hanfonodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthyt ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a'm hanfonodd i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y geiriau a roddaist i mi yr wyf wedi eu rhoddi iddynt hwy; a hwy eu hunain a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y daethum allan, ac a gredasant mai tydi a'm danfonaist i.