John 18:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWedy ir Iesu ðywedyt ypethe hyn, yð aeth allan ef a ei ðiscipulon dros garoc Cedron, lle ydd oeð garð, yr hon ydd aeth y mewn, ef a ei ddiscipulō.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwedi dywedyd y pethau hyn, yr Iesu a aeth allan ynghyda’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd i’r hon yr aeth i mewn, Efe a’i ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar ôl dywedyd hyn, aeth Iesu allan gyda’i ddisgyblion dros Nant y Cedrwydd, lle yr oedd gardd, ac aeth ef a’i ddisgyblion iddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i ddisgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu'n croesi Dyffryn Cidron gyda'i ddisgyblion. Dyma nhw'n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ddweud hyn, aeth Iesu allan gyda'i ddisgyblion a chroesi nant Cidron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a'i ddisgyblion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth allan gyd â'u Ddysgyblion yn groes i geunant Kedron, lle yr oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i Ddysgyblion.