John 18:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Simon Petr ac canthaw gleðyf, ei tynawð, ac a drawodd was yr Archoffeiriat, ac a dores ei glust ðeheu ymaith. Ac enw yr gwas yt oeð Malchus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Shimon Petr, gan hyny, a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, a tharawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef; ac enw y gwas oedd Malchus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd gan Simon Pedr gleddyf a thynnodd ef a thrawodd was y prif offeiriad a thorrodd ymaith ei glust dde; ac enw y gwas oedd Malchus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw'r gwas oedd Malchus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw'r gwas.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna tynnodd Simon Pedr y cleddyf oedd ganddo, a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. Enw'r gwas oedd Malchus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Simon Petr gan hyny a chanddo gleddyf a'i tynodd ef, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ddeheu ef. Ac enw y gwas oedd Malchus.