John 18:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Simon Petr oeð yn cālyn yr Ie s u, a’ discipul arall a’r discipul hwnw oedd yn adnabyddus gan yr Archoffeiriat: am hyny yð aeth ef y mewn gyd a’r Iesu i lys yr Archoffeiriat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chanlyn yr Iesu yr oedd Shimon Petr a disgybl arall. A’r disgybl hwnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn canlyn yr Iesu yr oedd Simon Pedr, a disgybl arall, ac yr oedd y disgybl hwnnw yn gydnabod i’r prif offeiriad, ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys y prif offeiriad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a'r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda'r Iesu i lys yr archoffeiriad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Simon Pedr ac un arall o'r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ'r archoffeiriad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd Simon Petr a Dysgybl arall yn canlyn yr Iesu; ac yr oedd y Dysgybl hwnw yn adnabyddus i'r Arch‐offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â Iesu i Lys yr Arch‐offeiriad;