John 18:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr oedd yn sefyll allan wrth y drws. Yno ydd aeth allan y discipul arall oedd adnabyddus gan yr Archoffeiriat, ac a ymddiddanawdd a’r ddrysores, ac a dduc Petr y mywn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad; ond Petr a safodd wrth y drws, allan. Gan hyny yr aeth y disgybl arall allan, yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a llefarodd wrth y ddrysores, a daeth a Petr i mewn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd Pedr yn sefyll wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall allan, a oedd yn gydnabod i’r prif offeiriad, a siaradodd â’r forwyn wrth y drws, ac aeth â Phedr i mewn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma'r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio'r ferch oedd yn cadw'r drws i adael Pedr i mewn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad 'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth Pedr i mewn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond Petr oedd yn sefyll wrth y drws oddi allan. Gan hyny y Dysgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch‐offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddygodd Petr i mewn.