John 18:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ddrysores a ðyvot wrth Petr, Any d yw ti thef yn vn o ddiscipulon y dyn hwn? Ef a ðyvot, Nac wyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd y llangces, gan hyny, y ddrysores, wrth Petr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd efe, Nac wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd morwyn y drws wrth Bedr: “A wyt tithau hefyd yn un o ddisgyblion y dyn yma?” Medd yntau: “Nac wyf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti'n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, "Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?" "Nac ydwyf," atebodd yntau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny dywed y forwynig ag oedd ddrysores wrth Petr, A wyt tithau hefyd yn un o Ddysgyblion y dyn hwn? Dywed yntau, Nid wyf.