John 18:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Archoffeiriait a ymofynodd a’r Iesu am ei ddiscipulon, ac am ei ddysc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr archoffeiriad, gan hyny, a ofynodd i’r Iesu ynghylch Ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly holodd y prif offeiriad yr Iesu ynghylch ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgeidiaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd Iesu'n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am beth roedd yn ei ddysgu, ac am ei ddisgyblion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Arch‐offeiriad gan hyny a ofynodd i'r Iesu am ei Ddysgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth.