John 18:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Iudas yr hwn a ei bradychoð ef, y adwaenei hefyt y lle: can ys mynych y bysei ’r Iesu yn tramvy yno ef a’ ei ddisipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac adwaenai Iwdas hefyd, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, y lle, canys mynych y cyrchasai yr Iesu yno ynghyda’i ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gwyddai Iwdas, ei fradychwr, am y lle gan fod yr Iesu gyda’i ddisgyblion wedi ymgynnull yno droeon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jwdas hefyd, yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenai'r lle: oblegid mynych y cyrchasai'r Iesu a'i ddisgyblion yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a'i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Jwdas hefyd, ei fradychwr, yn gwybod am y lle, oherwydd yr oedd Iesu lawer gwaith wedi cyfarfod 'i ddisgyblion yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Judas hefyd, yr hwn oedd yn ei fradychu ef, a adwaenai y lle; oblegyd yn fynych yr ymgynullasai yr Iesu a'i Ddysgyblion yno.