John 18:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd yð‐aw. My vi a ymadrodeis ar ’oystec ir byd, my vi vyth oedd yn athrawy yn y Syngog ag yn y Templ, lle y dawei ’r oll Iuddaeon ynghyt yn oystat, ac yn guddiedic ny ddywedais i ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Myfi a leferais yn amlwg wrth y byd; Myfi a ddysgais bob amser yn y sunagog ac yn y deml, lle y mae’r holl Iwddewon yn dyfod ynghyd, ac yn y dirgel ni leferais ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu iddo: “Yr wyf i wedi bod yn llefaru ar goedd i’r byd, ac yr wyf wedi dysgu bob amser yn y synagog ac yn y deml, lle y mae’r Iddewon i gyd yn ymgynnull, ac ni ddywedais ddim yn ddirgel;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae'r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Roeddwn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef: "Yr wyf fi wedi siarad yn agored wrth y byd. Yr oeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle y bydd yr Iddewon i gyd yn ymgynnull; nid wyf wedi siarad dim yn y dirgel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a atebodd iddo, Yr ydwyf fi wedi llefaru yn ddigêl wrth y byd: myfi yn wastadol a ddysgais mewn Synagog ac yn y Deml, lle y mae yr holl Iuddewon yn dyfod yn nghyd; ac yn ddirgel ni leferais ddim.