John 18:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Paam y govynny i mi? gofyn ir ei’n am clywsant, pa beth ðywedeis wrthwynt: nycha, wyntwy a wyddant pa beth a ddywedais.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Paham mai i Mi y gofyni? Gofyn i’r rhai a glywsant, pa beth a leferais wrthynt. Wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
paham yr wyt yn fy holi i? Hola’r sawl a fu’n gwrando, beth a ddywedais wrthynt; dyma’r rhai sy’n gwybod beth a ddywedais.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam wyt ti'n fy holi i? Hola'r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw'n gwybod beth dw i wedi ei ddweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr wyt yn fy holi i? Hola'r rhai sydd wedi clywed yr hyn a leferais wrthynt. Dyma'r sawl sy'n gwybod beth a ddywedais i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Paham yr wyt yn gofyn i mi? Gofyn i'r rhai sydd wedi clywed beth a leferais wrthynt: wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais i.