John 18:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy iddaw ddywedyt y pethae hyn, vn or swyddogogion oedd yn sefyll geir llaw, a drawoð yr Iesu a ei wialen, gan ddywedyt, A atepy’r Archoffeiriat velly?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe wedi dywedyd y pethau hyn, un o’r gweinidogion a oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr attebi yr archoffeiriad?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel yr oedd yn dywedyd hyn, rhoddodd un o’r swyddogion oedd yn sefyll wrth law gernod i’r Iesu, gan ddywedyd: “Ai dyma’r ffordd yr wyt yn ateb y prif offeiriad?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o'r swyddogion a'r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti'n ateb yr archoffeiriad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan atebodd Iesu felly dyma un o'r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti'n ateb yr archoffeiriad!” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedodd hyn, rhoddodd un o'r swyddogion oedd yn sefyll yn ei ymyl gernod i Iesu, gan ddweud, "Ai felly yr wyt yn ateb yr archoffeiriad?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe wedi dywedyd hyn, un o'r swyddogion yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl a darawodd yr Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn ateb yr Arch‐offeiriad?