John 18:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu ei atepoð. A’s dywedais yn ddrwc, testolaetha o’r drwc: ac a’s dywedais yn dda, paam i’m trawy?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Os yn ddrwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg; ond os yn dda, paham y tarewi Fi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu iddo: “Os drwg y dywedais, tystia am y drwg, — ond os da, paham yr wyt yn fy nghuro?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o'r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os dwedais i rywbeth o'i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Os dywedais rywbeth o'i le, rho dystiolaeth ynglu375?n hynny. Ond os oeddwn yn fy lle, pam yr wyt yn fy nharo?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a atebodd iddo, Os drwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg: ond os da, paham y tarewaist fi?