John 18:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymaw, a’ dywesont wrthaw, A nyd yw tu hevyt yn vn o y ðiscipulon ef? Ef a watawð, ac a ddyvot, Nac wyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd Shimon Petr yn sefyll ac yn ymdwymno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Tithau hefyd, onid o’i ddisgyblion Ef yr wyt? Gwadodd efe, a dywedodd, Nac wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddent hwy wrtho: “A wyt tithau yn un o’i ddisgyblion?” Gwadodd yntau a dywedodd: “Nac wyf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o'i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw'n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o'i ddisgyblion e?” Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho felly, "Tybed a wyt tithau'n un o'i ddisgyblion?" Gwadodd yntau: "Nac ydwyf," meddai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymo. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o'i Ddysgyblion ef?