John 18:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vn o weision yr Archofeiriat, car i hwn y toresei Petr ei glust, a ddyvot vvrthavv, Any welais i dydy yn yr ’ardd gyd ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, ac yntau yn gâr i’r hwn y torrasai Petr ei glust, Oni fu i mi dy weled yn yr ardd gydag Ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd un o weision y prif offeiriad, perthynas i’r un y torrodd Pedr ei glust: “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i'r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i'r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Onid ti welais i gydag e yn yr ardd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma un o weision yr archoffeiriad, perthynas i'r un y torrodd Pedr ei glust i ffwrdd, yn gofyn iddo, "Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nid wyf. Dywed un o weision yr Arch‐offeiriad, perthynas i'r hwn y torodd Petr ymaith ei glust, Oni welais i dydi yn yr ardd gyd âg ef?