John 18:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Petr a wadawdd trachefyn, ac yn y van y canawdd y ceiliawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trachefn, gan hyny, y gwadodd Petr, ac yn uniawn ceiliog a ganodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwadodd Pedr wedyn, ac ar unwaith canodd y ceiliog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwadodd Pedr eto. Ac ar hynny, canodd y ceiliog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Drachefn gan hyny y gwadodd Petr, ac yn ebrwydd ceiliog a ganodd.