John 18:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ducesont yr Iesu o ywrth Caiaphas ir dadleduy. A’r borae ytoeð hi, ac wyntwy nid aethāt ir dadlaeduy, rag eu halogy, anyd mal y gallent vwyta yr Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dygasant, gan hyny, yr Iesu oddiwrth Caiaphas i’r llys, a’r bore ydoedd; a hwy nid aethant i mewn i’r llys, rhag eu halogi, eithr fel y bwyttaent y Pasg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y maent yn myned â’r Iesu oddiwrth Gaiaffas i’r Plas, ac yr oedd yn dyddio, ond nid aethant hwy eu hunain i’r Plas, rhag eu halogi, er mwyn cael bwyta’r pasg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i'r dadleudy: a'r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i'r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta'r pasg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y maent yn arwain yr Iesu gan hyny oddi wrth Caiaphas i'r Pretorium: ac yr oedd yn fore iawn; a hwy eu hunain nid aethant i mewn i'r Pretorium, rhag eu halogi, ond fel y gallent fwyta y Pasc.