John 18:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pilatus yno aeth allā atwynt, ac a ðyuot, Pa achwyn ’sy genwch yn erbyn: y dyn hwnn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny yr aeth Pilat allan attynt, a dywedodd, Pa gyhuddiad a ddygwch yn erbyn y dyn hwn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly aeth Pilat allan atynt a dywedodd: “Pa gyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn yma?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn hwn?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, "Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pilat gan hyny a aeth y tu allan atynt hwy, ac y mae yn dywedyd, Pa gyhuddiad yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?