John 18:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Atep a wnaethant a’ dywedyt wrthaw, Pe bysei hwn eb wneythy drwc ny roddesem ni ef atat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebasant, a dywedasant wrtho, Oni bai fod Hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem Ef i ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebasant a dywedasant wrtho: “Pe na bai hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei draddodi i ti.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fydden ni ddim wedi ei drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant ef, "Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, oni bai fod hwn yn ddrwg‐weithredwr, ni fuasem ni wedi ei draddodi ef i ti.