John 18:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Pilatus wrthynt, Cymerw‐chwi ef, a’ bernwch ef wrth eich deðyf eich hun ain. Yno y dyvot yr Iuddaeon wrthaw, Nid rydd i ni roi nep i angae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd, gan hyny, wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, ac yn ol eich Cyfraith bernwch Ef. Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iwddewon, I nyni nid cyfreithlawn yw lladd neb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, ac yn ôl eich cyfraith chwi bernwch ef.” Medd yr Iddewon wrtho: “Nid oes hawl gennym ni i ladd neb,” —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i'w farnu.” “Ond does gynnon ni mo'r awdurdod i'w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Pilat wrthynt, "Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn l eich Cyfraith eich hunain." Meddai'r Iddewon wrtho, "Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich Cyfraith chwi. Dywedodd yr Iuddewon wrtho, Nid cyfreithlawn i ni ladd neb: