John 18:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pilatus a atepawdd. Ae Iuddew yw vi? dy genedl dy hun, a’r Archoffeiriait, a’th roesan di ataf vi. Pa beth a wnaethost?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd Pilat, A ydwyf fi yn Iwddew? Dy genedl a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Pilat: “Ai Iddew ynteu wyf i? Dy genedl di dy hun a’r prif offeiriaid a’th roes yn fy nwylo. Beth a wnaethost?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a'r archoffeiriaid a'th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a'u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi ei wneud?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Pilat, "Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a'i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pilat a atebodd, Ai Iuddew yn wir ydwyf fi? Dy Genedl dy hun a'r Arch‐offeiriaid a'th draddodasant ti i mi: beth a wnaethost ti?