John 18:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd, Vy‐ teyrnas i nid yw o’r byt hwnn: pe o’r byt hwnn vesei vy‐teyrnas, yn wir vy‐gwasanaethwyr a ymddladdent, mal na’m rhoddit ir Iuddaeon: an’d yr owrhon nid yw vy‐teyrnas o dd yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth a wnaethost? Attebodd yr Iesu, Fy nheyrnas I nid yw o’r byd hwn. Ped o’r byd hwn y buasai Fy nheyrnas I, Fy ngweinidogion I a ymdrechasent fel na’m traddodid i’r Iwddewon: ond yn awr Fy nheyrnas I nid yw oddiyma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu: “Nid yw fy mrenhiniaeth i o’r byd hwn. Pe bai fy mrenhiniaeth o’r byd hwn, ymladdai fy swyddogion yn erbyn fy rhoddi yn nwylo’r Iddewon. Ond, yn wir, nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r byd hwn. Pe o'r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o'r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i'm cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu atebodd, Fy Nheyrnas fy hun nid yw o'r byd hwn: pe o'r byd hwn y byddai fy Nheyrnas fy hun, fy ngweinidogion fy hun a fyddent yn ymorchestu, fel na'm traddodid i'r Iuddewon: ond yn awr nid yw fy Nheyrnas fy hun oddi yma.