John 18:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pilatus yno a ddyvot wrthaw, Can hyny ai Teyrn ytwyt? Yr Iesu a atepawdd. Tu ys y’n dywedyt mae Teyrn ytwyf: er mwyn hyn i’m ganet, ac er mwyn hyn y dauthym ir byt, ’sef i tostolaethy ir gwirioneð: pop vn a han yw o’r gwirionedd, a wrendy vy llef erydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth Pilat, Ai brenhin, ynte, wyt Ti? Attebodd yr Iesu, Ti a ddywedi mai brenhin wyf Fi. Myfi a’m ganed er mwyn hyn, ac er mwyn hyn y daethum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un y sydd o’r gwirionedd a wrendy Fy llais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywed Pilat wrtho: “O, yr wyt ti’n frenin, felly?” Atebodd yr Iesu: “Yr wyt ti’n dywedyd fy mod yn frenin. I hyn y ganed fi ac i hyn y deuthum i’r byd, — er mwyn tystio i’r gwirionedd. Y mae pob un sydd o’r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y'm ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat. Atebodd Iesu, “Ti sy'n defnyddio'r gair ‛brenin‛. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i'r byd ydy i dystio i beth sy'n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai Pilat wrtho, "Yr wyt ti yn frenin, ynteu?" "Ti sy'n dweud fy mod yn frenin," atebodd Iesu. "Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd. Y mae pawb sy'n perthyn i'r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd Pilat gan hyny wrtho, Yr wyt gan hyny yn Frenin, onid wyt? Yr Iesu atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd hyny: canys Brenin ydwyf. Yr wyf fi wedi fy ngeni i hyn, ac i hyn yr wyf wedi dyfod i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r Gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r Gwirionedd sydd yn gwrando ar fy llais i.