John 18:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pilatus a ddyvot wrthaw, Pa beth yw gwirionedd? A’ gwedy iddaw ddywedyt hyn, ef aeth allan drachefyn at yr Iuddaeon, ac a ddyvot wrthwynt, Nyd wyf yn cahel vn bai arno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth Pilat, Pa beth yw gwirionedd? Ac wedi dywedyd hyn yr aeth efe allan trachefn at yr Iwddewon, a dywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Pilat wrtho: “Beth yw gwirionedd?” Ac wedi dywedyd hyn, aeth allan yn ei ôl at yr Iddewon, ac medd ef wrthynt: “Nid wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat. Yna aeth allan at yr arweinwyr Iddewig eto a dweud, “Dw i ddim yn ei gael yn euog o unrhyw drosedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Pilat wrtho, "Beth yw gwirionedd?" Wedi iddo ddweud hyn, daeth allan eto at yr Iddewon ac meddai wrthynt, "Nid wyf fi'n cael unrhyw achos yn ei erbyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed Pilat wrtho, Pa beth yw Gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iuddewon, a dywed wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim sail i gyhuddiad ynddo ef.