John 18:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anid mae genych ddevot, vot i mi ellwng ychwy vn yn rhydd ar y Pasc. Velly a ewyllysiwch i mi ellwng i chwi yn rhydd Vrenhin yr Iuddaeon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y mae defod genych, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasg. A fynwch chwi, gan hyny, i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenhin yr Iwddewon?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond y mae’n arfer gennych i mi ryddhau un ar y pasg. A ddymunwch chwi felly i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n arferiad i mi ryddhau un carcharor i chi adeg y Pasg. Ydych chi eisiau i mi ryddhau hwn, ‛Brenin yr Iddewon‛?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'n arfer gennych i mi ryddhau un carcharor ichwi ar y Pasg. A ydych yn dymuno, felly, imi ryddhau ichwi Frenin yr Iddewon?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y mae genych chwi arferiad, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasc: a ewyllysiwch chwi gan hyny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iuddewon?