John 18:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Iesu yn gwybot pop peth a ddelei arnaw, aeth rhacddaw, ac a ddyvot wrthynt, Pwy ’dd ych yn ei gaisiaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod Arno, a aeth allan, a dywedodd wrthynt, Pwy a geisiwch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, gan ei fod yn gwybod popeth oedd yn dyfod arno, aeth Iesu allan ac medd ef wrthynt: “Pwy a geisiwch?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi'n edrych?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fod Iesu'n gwybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo, aeth allan atynt a gofyn, "Pwy yr ydych yn ei geisio?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod arno, a aeth allan ac a ddywed wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?