John 18:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wy ei atepesont, Iesu o Nazaret. Yr Iesu a ddyvot wrthwynt, My vi yw ef. Ac Iudas hefyt yr hwn y bradychodd ef, oedd yn sefyll gyd ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebasant Iddo, Iesu y Natsaread. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Myfi yw. A safai Iwdas, yr hwn oedd yn ei draddodi Ef, gyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebasant iddo: “Iesu o Nasareth.” Medd ef wrthynt: “Myfi ydyw,” — ac yr oedd Iwdas, ei fradychwr, hefyd yn sefyll gyda hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant ef, "Iesu o Nasareth." "Myfi yw," meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a atebasant iddo, Iesu y Nazarëad. Dywed yr Iesu wrthynt, Myfi yw. Ac yr oedd Judas hefyd, yn hwn oedd yn ei fradychu ef, yn sefyll gyd â hwynt.