John 18:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac er cynted y dybot ef wrthwynt, My vi yw ef, wy aethant yn wysc ei cefn, ac a syrthiesont ir llawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan, gan hyny, y dywedodd Efe wrthynt, Myfi yw, aethant ymaith yn wysg eu cefnau, a syrthiasant i lawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddywedodd wrthynt “Myfi ydyw,” aethant yn ôl yn wysg eu cefnau a syrthiasant ar lawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddwedodd Iesu “Fi ydy e,” dyma nhw'n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedodd Iesu wrthynt, "Myfi yw", ciliasant yn l a syrthio i'r llawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan gan hyny y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysg eu cefnau, ac a syrthiasant ar y ddaear.