John 18:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd, Dywedeis y‐chwy, mae my vi yw ef: can hyny a’s mi a gaisiwch, gadwch ir ei hynn vyned ymaith
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, Dywedais wrthych mai Myfi yw; os, gan hyny, Myfi a geisiwch, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu: “Dywedais wrthych, ‘Myfi ydyw,’ felly os myfi a geisiwch, gedwch i’r rhain fyned,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy'r un dych chi'n edrych amdano, gadewch i'r dynion hyn fynd yn rhydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: os gan hyny myfi yr ydych yn ei geisio, gadêwch i'r rhai hyn fyned ymaith;