John 18:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyn a vu er cyflawny’r gair yr hwn a ddywedesei ef, O’r ei’n a roddeist ymy, ny cholleis i nebun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y cyflawnid y gair a ddywedasai Efe, “O’r rhai a roddaist i Mi, ni chollais un o honynt.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y cyflawnid y gair a ddywedodd, “Y rhai a roddaist imi, ni chollais ohonynt un.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i'r un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Er mwyn i beth ddwedodd e yn gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o'r rhai roist ti i mi.”)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: "Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y cyflawnid y gair yr hwn a ddywedodd efe, Y rhai yr ydwyt wedi eu rhoddi i mi, ni chollais i yr un o honynt.