John 19:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd, Ny byddei yty ddim meddiant yn v’erbyn, pe na’s roesit y‐ty oðucho d: can hyny yr hwn a’m rhodes yty, y sy vwy ei bechot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Ni fuasai genyt ddim awdurdod yn Fy erbyn, oni bai ei rhoddi i ti oddi uchod: o achos hyn, yr hwn a’m traddodes i ti sydd â phechod mwy arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu: “Ni buasai gennyt ddim hawl arnaf i, heb fod hynny wedi ei roddi i ti oddiuchod. Am hyn, yr hwn a’m rhoes yn dy ddwylo, y mae mwy pechod arno.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi ei roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae'r un drosglwyddodd fi i ti yn euog o bechod llawer gwaeth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef, "Ni fyddai gennyt ddim awdurdod arnaf fi oni bai ei fod wedi ei roi iti oddi uchod. Gan hynny, y mae'r hwn a'm trosglwyddodd i ti yn euog o bechod mwy."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a atebodd iddo, Ni byddai i ti unrhyw awdurdod yn fy erbyn i, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: o herwydd hyn y mae ar yr hwn sydd yn fy nhraddodi i ti bechod mwy.