John 19:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o hynny allan y caisiawdd Pilatus y ellwng ef: an’d yr Iuddaeon a lefent, gan ddywedyt, A’s gellyngy di hwn, nyd wyt ti gar i Caisar: can ys pwy bynac ei gwna ehun yn Vrenhin, ef a ddywait yn erbyn Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O hyny allan, ceisiodd Pilat Ei ollwng Ef yn rhydd; ond yr Iwddewon a waeddasant, gan ddywedyd, Os Hwn a ollyngi yn rhydd, nid wyt gyfaill i Cesar. Pob un y sy’n gwneuthur ei hun yn frenhin, dywedyd yn erbyn Cesar y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O hyn allan, ceisiai Pilat ei ryddhau ef, ond gwaeddodd yr Iddewon gan ddywedyd: “Os rhyddhei hwn, nid wyt ti’n bleidiol i Gesar; y mae pob un sy’n ei wneuthur ei hun yn frenin yn erbyn Cesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O hynny ymlaen roedd Peilat yn gwneud ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di'r dyn yna'n rhydd, dwyt ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy'n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O hyn allan, ceisiodd Pilat ei ryddhau ef. Ond gwaeddodd yr Iddewon: "Os wyt yn rhyddhau'r dyn hwn, nid wyt yn gyfaill i Gesar. Y mae pob un sy'n ei wneud ei hun yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn Cesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar hyn, yr oedd Pilat yn ceisio ei ryddhâu ef, ond yr Iuddewon a lefasant allan, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid ydwyt gyfaill i'r Cesar: pob un a'r sydd yn gwneuthur ei hun yn frenin sydd yn dywedyd yn erbyn y Cesar.