John 19:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glywodd Pilatus yr ymadrodd hyny, ef a dduc yr Iesu allan, ac a eisteddawdd ar yr orsedd fainc yn y lle a elwit y Palmaut, ac yn Hebreo Gabbatha.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pilat, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddug allan yr Iesu, ac eisteddodd ar y frawd-faingc yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, pan glywodd Pilat y geiriau hyn, aeth â’r Iesu allan, ac eisteddodd ar fainc yn y lle a elwir y Palmant, yn Hebraeg, Gabbatha.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Peilat, pan glybu'r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Peilat hyn, daeth â Iesu allan eto, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle oedd yn cael ei alw ‛Y Palmant‛ (‛Gabbatha‛ yn Hebraeg).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Pilat y geiriau hyn, daeth Iesu allan, ac eisteddodd ar y brawdle yn y lle a elwir Y Palmant (yn iaith yr Iddewon, Gabbatha).
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pilat gan hyny, pan glywodd y geiriau hyn, a ddygodd yr Iesu y tu allan, ac a eisteddodd ar orsedd‐fainc mewn lle a elwir Palmant, ond yn Hebraeg, Gabbatha.