John 19:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a lefent, Ymaith ac ef, ymaith ac ef, croc ef. Pilatus a a ddyvot wrthynt. A crocaf vi eich Brēhin? Yr Archoffeiriait atepesont, Nyd oes y ni Vrenhin odddiethr Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y bloeddiasant hwy, Ymaith ag Ef; ymaith ag Ef; croes-hoelia Ef. Wrthynt y dywedodd Pilat, Ai eich Brenhin a groes-hoeliaf? Attebodd yr archoffeiriaid, Nid oes genym frenhin oddieithr Cesar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gwaeddasant hwy: “Ymaith, ymaith ag ef; croeshoelia ef.” Medd Pilat wrthynt: “A wyf i groeshoelio eich brenin?” Atebodd y prif offeiriaid: “Nid oes gennym frenin ond Cesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!” “Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat. “Cesar ydy'n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaeddasant hwythau, "Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef." Meddai Pilat wrthynt, "A wyf i groeshoelio eich brenin chwi?" Atebodd y prif offeiriaid, "Nid oes gennym frenin ond Cesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwythau gan hyny a lefasant, Ymaith âg ef, ymaith âg ef, croeshoelia ef. Pilat a ddywed wrthynt, A groeshoeliaf eich Brenin chwi? Yr Arch‐offeiriaid a atebasant, Nid oes genym Frenin ond Cesar.