John 19:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a dduc ei groc, ac a ddeuth i le a elwit y Penglocva yr hwn a elwir yn Hebreo Golgotha:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y cymmerasant yr Iesu. A chan ddwyn y groes Iddo Ei hun, yr aeth Efe allan i’r lle a elwir Lle ’r benglog,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth allan gan gario’i groes ei hunan, i’r fan a elwir Lle’r Benglog (a elwir Golgotha yn Hebraeg),
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle'r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth allan, yn cario ei groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha).
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan ddwyn y groes iddo ei hun, efe a aeth allan i'r lle a elwir Lle Penglog, yr hwn a elwir yn Hebraeg, Golgotha: