John 19:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r milwyr a blethesont coron o ddrain, ac ei gesodesont ar ei benn. Ac a roesont wisc burpur am danaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r milwyr, wedi plethu coron o ddrain, a’i gosodasant ar Ei ben Ef; a chochl burpur a roisant am Dano;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phlethodd y milwyr ddrain yn goron, a dodasant hi ar ei ben, a rhoddasant amdano wisg borffor,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r milwyr yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi am ei ben, ac yn gwisgo clogyn borffor amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phlethodd y milwyr goron o ddrain a'i gosod ar ei ben ef, a rhoi mantell borffor amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg uchaf o borphor am dano: