John 19:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r titul hwn a ddarlleawð llawer or Iuddaeon: can ys y lle y crogesit yr Iesu, oedd yn agos i’r dinas: ac ydd oedd yn yscrivenedic yn Hebreo, Groec, a’ Llatin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y titl hwn, gan hyny, llawer o’r Iwddewon a ddarllenasant, canys agos i’r ddinas oedd y lle y croes-hoeliwyd yr Iesu; ac yr oedd yn ysgrifenedig yn Hebraeg, yn Lladin, ac yn Groeg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly darllenodd llawer o’r Iddewon yr hysbysiad hwn, am fod y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu yn agos i’r ddinas; ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, yn Lladin, yn Roeg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o'r Iddewon; oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos at y ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith — Hebraeg, Lladin a Groeg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Darllenodd llawer o'r Iddewon y teitl hwn, oherwydd yr oedd y fan lle croeshoeliwyd Iesu yn agos i'r ddinas. Yr oedd y teitl wedi ei ysgrifennu yn iaith yr Iddewon, ac mewn Lladin a Groeg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y teitl hwn gan hyny a ddarllenodd llawer o'r Iuddewon; canys agos i'r Ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg, Lladin, a Groeg.