John 19:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Archoffeiriait yr Iuðaeon wrth Pilatus, Nag yscrivena, y Brēhin yr Iuðeon, eithr bot yðo ðywedyt, Brenhin yr Iuðeon ytwyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, wrth Pilat y dywedodd archoffeiriaid yr Iwddewon, Nac ysgrifena Brenhin yr Iwddewon, eithr mai Efe a ddywedasai, Brenhin yr Iwddewon ydwyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedodd prif offeiriaid yr Iddewon wrth Bilat: “Nac ysgrifenna ‘Brenin yr Iddewon,’ ” ond “Dywedodd hwn, ‘Brenin yr Iddewon ydwyf.’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Pilat, "Paid ag ysgrifennu, 'Brenin yr Iddewon', ond yn hytrach, 'Dywedodd ef, "Brenin yr Iddewon wyf fi."'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd gan hyny Arch‐offeiriaid yr Iuddewon wrth Pilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Efe a ddywedodd, Brenin yr Iuddewon ydwyf fi.