John 19:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r milwyr wedy yð wynt grogi’r Iesu a gymersont ei ddillat ac ei gwnaethant yn bedair rhā, i bob milwr ran, ay bais ef: a’r bais oeð yn ddiwni at, wedy’r weheu o’r cwr uchaf trwyddhei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y milwyr, gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant Ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, i bob milwr ran, ac Ei bais: ac yr oedd y bais yn ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna wedi croeshoelio’r Iesu, cymerth y milwyr ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, — rhan i bob milwr, — ynghyd â’r crys, ac yr oedd y crys yn ddiwnïad, wedi ei weu drwyddo oll o’r cwr uchaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio'r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf trwyddi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt groeshoelio Iesu, cymerodd y milwyr ei ddillad ef a'u rhannu'n bedair rhan, un i bob milwr. Cymerasant ei grys hefyd; yr oedd hwn yn ddiwnad, wedi ei weu o'r pen yn un darn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y milwyr gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant ei wisgoedd uchaf, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran: hefyd yr is‐wisg. Yn awr, ei is‐wisg oedd ddiwniad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf drwyddi oll.