John 19:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny y dywedesont wrth ei gylydd, Na ranwn yhi anid bwriwn am danei, pwy bieuvydd. Hyn a vu er cyflawni yr Scrythur a ddywait, Ranesant vy‐gwist yn ei plith, ac ar vy‐pais y bwriesōt goelbrenni. Felly ’r milwyr a wnaeth hyn yn ddiau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedasant, gan hyny, wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, eithr bwriwn goel-brennau am dani, eiddo pwy fydd hi, fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a ddywaid, “Rhannu fy nillad y maent yn eu mysg, Ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly meddent hwy wrth ei gilydd: “Na rwygwn ef, ond bwrw coelbren arno pwy a’i caiff”; fel y cyflawnid yr adnod, Rhanasant fy nillad rhyngddynt, ac ar fy ngwisg bwriasant goelbren; a hyn felly a wnaeth y milwyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A'r milwyr a wnaethant y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n dweud, “Gadewch inni beidio rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.” Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Peidiwn 'i rhwygo hi," meddai'r milwyr wrth ei gilydd, "gadewch inni fwrw coelbren amdani, i benderfynu pwy gaiff hi." Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud: "Rhanasant fy nillad yn eu mysg, a bwrw coelbren ar fy ngwisg." Felly y gwnaeth y milwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedasant gan hyny wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond bwriwn goel‐brenau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, Rhanasant fy nillad yn eu mysg eu hunain, Ac ar fy ngwisg y bwriasant goel‐bren. Y pethau hyn gan hyny a wnaeth y milwyr.