John 19:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar ol hynny pan wybu yr Iesu vot pop beth wedy ’r ddybenny, er mwyn cyflawny ’r Scrythur, e ddyvot, Mae arnaf sychet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywedodd, Sychedaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar ôl hynny, dywedodd yr Iesu, ac yntau’n gwybod bod popeth bellach wedi dyfod i’r pen (fel y cyflawnid yr ysgrythur): “Y mae syched arnaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth oedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn yr oedd Iesu'n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, "Y mae arnaf syched."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywed, Y mae syched arnaf.