John 19:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yno lestr wedy ’r ’osot yn llawn o vinegr: ac wy a lanwesont yspong o vinegr: ac ei roesynt ynghylch paladr hyssop, ac ei dodesont wrth ei enae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llestr oedd yn gorwedd yno, llawn o finegr; wedi rhoddi ysbwng llawn o’r finegr, ynghylch isop, dodasant ef wrth Ei enau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd llestr wrth law yn llawn o finegr; felly dodasant yspwng yn llawn o finegr ar flaen picell, a chyfodasant ef at ei enau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch isop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd llestr ar lawr yno, yn llawn o win sur, a dyma hwy'n dodi ysbwng, wedi ei lenwi 'r gwin yma, ar ddarn o isop, ac yn ei godi at ei wefusau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd yno lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: gan hyny hwy a osodasant ysbwng llawn o finegr ar isop, ac a'i dygasant at ei enau ef.