John 19:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddywedesont, Henpych well, Vrenhin yr Iuddaeon. Ac wy y trawsant ef a ei gwiail.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daethant Atto, a dywedasant, Henffych well, Brenhin yr Iwddewon; a rhoisant Iddo gernodiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a myned ato a dywedyd: “Henffych well, Frenin yr Iddewon,” a rhoddi cernodiau iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna roedden nhw'n mynd ato drosodd a throsodd, a'i gyfarch gyda'r geiriau, “Eich mawrhydi, Brenin yr Iddewon!”, ac wedyn ei daro ar ei wyneb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oeddent yn dod ato ac yn dweud, "Henffych well, Frenin yr Iddewon!" ac yn ei gernodio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iuddewon. A hwy a roisant iddo gernodiau.