John 19:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy i’r Iesu gymeryd yr vynecr, y dyvot, Dibennwyt. Ac a ei ben ar ogwydd y rhoddes e yr yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd, Gorphenwyd; a chan ogwyddo Ei ben, rhoddes i fynu yr yspryd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd: “Dyma’r diwedd,” ac wedi plygu ei ben, rhoddodd i fyny ei ysbryd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna pan gymerodd yr Iesu'r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi ei wneud.” Yna plygodd ei ben a marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, "Gorffennwyd." Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan dderbyniodd yr Iesu gan hyny y finegr, dywedodd, Gorphenwyd: ac efe a blygodd ei ben, ac a roddodd i fyny yr yspryd.