John 19:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iuddeon yno (can y bot yn Ddarpar, rac bot y cyrph yn aros ar y groc ar y dydd Sabbath: (can ys mawr oedd y Sabbath hwnw) a ddeisyfesont ar Pilatus gahel drylliaw y escairie hwy, a’ei tynnu i lawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iwddewon, gan hyny, gan mai’r Parottoad ydoedd, fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y Sabbath, (canys mawr oedd dydd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat am gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, gan ei bod yn noswyl y Sabath, rhag i’r cyrff aros ar y groes ar y Sabath (canys y dydd Sabath mawr oedd hwnnw), gofynnodd yr Iddewon gan Bilat gael torri eu coesau hwynt a’u tynnu i lawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai'r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a'u tynnu i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, gan ei bod yn ddydd Paratoad, gofynnodd yr Iddewon i Pilat am gael torri coesau'r rhai a groeshoeliwyd, a chymryd y cyrff i lawr, rhag iddynt ddal i fod ar y groes ar y Saboth, oherwydd yr oedd y Saboth hwnnw'n uchel-u373?yl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon gan hyny, gan ei bod y Parotoad, fel nad arosai y cyrff ar y groes ar y Sabbath (canys Diwrnod Mawr oedd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat fel y gellid tori eu coesau hwynt, a'u cymmeryd hwynt ymaith.