John 19:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth y milwyr, ac a ddrylliesont esceirie ’r cyntaf, ac ysceiriae ’r llall, yr hwn a grogesit gyd a’r Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, daeth y milwyr, ac esgeiriau y cyntaf a dorrasant,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly daeth y milwyr a thorasant goesau’r cyntaf ac yna’r ail a groeshoeliasid gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau'r cyntaf, a'r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi eu croeshoelio gyda Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly daeth y milwyr, a thorri coesau'r naill a'r llall a groeshoeliwyd gyda Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Daeth y milwyr gan hyny, ac a dorasant goesau y cyntaf, a'r llall a groeshoeliasid gyd âg ef: