John 19:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r hwn a welawdd, a testolaethawdd, a’ gwir yw y destoliaeth ef: ac ef a wyr ei vot yn dywedyt gwir, val ac y credo chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn a welodd a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth ef; ac efe a ŵyr mai gwir a ddywaid efe, fel y bo i chwithau hefyd gredu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae’r un a’i gwelodd wedi tystio, a gwir yw ei dystiolaeth ef, a gŵyr hwnnw ei fod yn dywedyd y gwir, er mwyn i chwithau hefyd gredu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a'i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ei ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r un a welodd y peth wedi dwyn tystiolaeth i hyn, ac y mae ei dystiolaeth ef yn wir. Y mae hwnnw'n gwybod ei fod yn dweud y gwir, a gallwch chwithau felly gredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn sydd wedi gweled sydd wedi tystiolaethu, a gwirioneddol yw ei dystiolaeth ef: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd pethau gwir fel y credoch chwithau hefyd.