John 19:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y pethe hyn a wnaethpwyt, val y cyflawnit yr Scrythur, Ny drillir ascwrn o hanaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys digwyddodd y pethau hyn fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, “Asgwrn o Hono ni thorir:”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys bu hynny fel y cyflawnid yr adnod: Asgwrn ohono ni ddryllir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o'i esgyrn yn cael ei dorri,”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digwyddodd hyn er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: "Ni thorrir asgwrn ohono."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, — Ni friwir asgwrn o hono.